Prawfddarllenwyd y dudalen hon
BARRUG
Mi welais ir gawodau
Y Gwanwyn gynt, a'i flodau,
A'i firain wedd o fore i nawn
Oedd lawn o ryfeddodau.
Mi welais Haf oedd dirion
Yn glasu'r dolau irion,
Heb ddim a dduai heulwen haf
Y dyddiau araf, hirion.
A minnau a'm cymdeithion
I gyd yn brysur weithion,
Fe gwympodd llawer yn eu brys
Ar lwybrau dyrys, meithion.
A doe, pan led arefais,
I gofio'r Haf, mi gefais
Fod Barrug Hydre'n britho'r bryn,
A minnau, syn y sefais!