Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AR Y FFORDD
(Yn Iwerddon)

Bore da, syr, a roech chwi flewyn
O faco i greadur tlawd:—
Mae o'n dda at dorri newyn
Pan fo dyn yn ddrwg ei ffawd.

Diolch yn fawr, syr; pe bawn i
Yn clywed eich holi, ddydd brawd,
Mi dystiwn, yn wir, pe cawn i—
Rhoes faco i greadur tlawd.