Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ag o'r graig a rwyg y ro,
Heb dy atal bid iti
Fwrw y llafn i ferw y lli;
Mynn, o ben y man y bych,
lawn wylio'r hyn a welych,
Hyd y bydd, ac wedi bo
Dyred yn ôl heb dario."
Dwfn fyfyr ar Fedwyr fu
A gloes, o weled glasu
Gan ofid wedd gynefin
A herio trais hacra trin.
Ond codi'r cledd rhyfeddol
A wnaeth; yna aeth, yn ôl
Gair Arthur, o'i gur, wrtho
I warr y drum ar fyrr dro.
O'r drum rhoes Bedwyr dremyn,
A chafas faith frychlas fryn
Tonnog, a marian tano,
A rhwyd fraith ar hyd y fro
O flodau fil, a hudodd
Haelioni'r haf i'w lu'n rhodd;
Gwe brydferth am y perthi,
Fel ewyn llathr ar flaen lli;
Dibrin flodau'r eithin aur,
Mal haen o gylch melynaur;
A'r grug fel esmwyth hugan