Prawfddarllenwyd y dudalen hon
PELYDRYN
Rhedodd allan o ryw lôn gefn gul,
Yn bennoeth, drwy'r gwynt a'r glaw;
Gwallt bach melyn, a llygad glas;
Balŵn fach with linyn yn ei llaw.
"Datod!" meddai, a'i phen bach yn gam,
Ac estyn y belen i mi;
Cwlwm go ddyrys, ond daeth yn rhydd
Ymhen rhyw ddau funud neu dri.
Un wên a gefais, fel heulwen haf,
Ac yna, i ffwrdd â hi;
Byrr fydd ei chof am y peth, mi wn,
Ond byth nid anghofiaf i.