Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GYNT AC ETO
I W.E.

I lawr wrth hen felin Bodrual
Y gwelwyd y marchog gynt,
A'i darian a'i gledd a'i gorn bual,
A'i bennwn yn gweu yn y gwynt.

Fe'i gwelwyd un waith wedi hynny
With Eglwys Lanfaglen, ryw hwyr,
Ag ewyn y môr yn melynnu,
A'r Eifl fel rhyw garnedd o gŵyr.

At felin Bodrual bed elid
Yn ôl wedi hirfaith hynt,
Neu Eglwys Lanfaglen, a welid
Y marchog a welwyd gynt?