Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHOSYNNAU
Wrth weled blodau'r Rhododendra gwynion yn sefyll, a'r lleill wedi syrthio, Cwm Cynfelyn, Mai, 1923.

Greso i bob gwiw rosyn
Sy'n y cae, rhosyn coch a melyn,
Ond, pe prisid pob rhosyn,
Rhoeswn gant er rhosyn gwyn.


GLAW YM MAI

Cnufau cymylau fel mur
Adwyog rhwng daear ac asur,
Dioglyd fôr nad eglur,
Llyfn oedd ef fel llafn o ddur.



YR ENGLYN

Di wall we'r deall a'i waith,
Dil moddus yn dal meddwl perffaith;
Cain lurig cynnil araith,
Enaid byw cywreindeb iaith.