Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Onid ê ni adai hyn
O rysedd, oedd ddi-resyn!
Diogel mi a'i celaf
Ef, a gweld a fo a gaf."
O chwalu'r cawn a chwilio
Y grug a drain y graig, dro,
Yno'n isel ymgelu
Fe gafodd ef ogof ddu.
Dychwelodd, edrychodd dro—
Anadl ni chlywai yno,
Ond dŵr a'i dwrdd yn taro
Ar y graig, a'i su drwy'r gro.
Draw e droes; drwy y drysi
Aeth a'r arf; a llathrai hi
Ogylch; yng ngwyll yr agen
Ni phylai mwy na fflam wen.
Ac i'r ddu hollt gyrrodd hi,
A swrn o ddeilos arni;
Gofalu ar gelu'r gwaith,
Gwrando, tremio, troi ymaith.
A phan ddaeth at y ffynnon
A'i gro brith, neshau ger bron
Y Brenin a phenlino
A rhoi'r gair a orug o.