Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ebr, yna, yntau'r Brenin,
A geiriau bloesg o'i gur blin:
Ateb, a ddarfu iti
Fwrw y llafn i ferw y lli?"

"O'r daith," eb Bedwyr, "deuthum,
Tremio o ben y trum y bûm."

Eb Arthur: "Wedi aberthu
Y glaif hen, ba goel a fu?"

"Hyd y gwn, bid wiw gennyd,
Iôr," eb ef, "dim un o'r byd."

"Rhith ar air," eb Arthur, "yw
Hyn, Bedwyr—geudeb ydyw!
A dorri'n awr, di, er neb,
Lendid yr hen ffyddlondeb?
Bedwyr, dychwel heb oedi,
A'r llafn, bwrw dithau i'r lli!"

Heb dario i ateb, aeth Bedwyr eto,
Rhedeg i'r undaith er chwerwed gwrando
Ei deyrn yn dodi arno feddwl brad
A chas ddymuniad na cheisiodd mono.

"Diau'r gofid," eb Bedwyr, "a gafodd
Ef drwy iasau ei glwyfau a'i drysodd,