Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cerddodd Bedwyr heb orffwys, a'r pwysau
Yn tanio'i wyneb, tynhau'i ewynnau,
At ben ei hynt heb wanhau na gwydnwch
Na chaledwch ei ddi-nych aelodau.

Fel drych o risial glân, odditano,
Y gwelai long ar y gloyw li yngo,
A'i hwyl fel rhwyd wedi'i heilio o wawn,
A heulwen nawn wedi'i dal yn honno.

Rhodio ar ei hyd yr oedd
Firain ferched, niferoedd;
Mor wych ei drych edrychai
Pob un â phob rhyw fun fai
Laned ei gwedd pan lenwynt
Byrth y gaer yn Arberth gynt,
A'r Brenin, er bwrw yno,
Iâs y drin, yn aros dro,
Neu yng ngerddi Caer Llion
Ag yntau'n hardd gynt yn hon.

Yng nghraidd y llong, ar ddull ail
I orsedd 'roedd glwth eursail,
Ac ar ei gerfwaith cywrain
Gwrlid mwyth ysgarlad main;
Mireiniaf tair morynion
Ar sedd wrth yr orsedd hon
Eisteddai; dlysed oeddynt