Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Breichiau glanach na'r sindal a'r pali
I'r gadair euraid a gaid i'w godi;
Gwynion ddwylaw fu'n gweini i'r Brenin,
A rhoddi gwin i lareiddio'i gyni.
"Dioer, o mynnwch," eb Bedwyr, "i minnau
Hoffed fu gynt, ni pheidiaf ag yntau;
Ynghŷd y buom yng nghadau,-ynghŷd,
Iawn ein diengyd yn ennyd angau!"
Ebr un o'r glân rianedd:
"Arthur byth ni syrth i'r bedd,
A doethed ef, Dithau, dos,
Bydd ŵr a gwybydd aros!"
Bedwyr, yn drist a distaw,
Wylodd, ac edrychodd draw.
Yno, ag ef yn ei gur,
Y syrthiodd neges Arthur
Ar ei glyw: "Bydd ddewr a glân,
Baidd ddioddef, bydd ddiddan!
Mi weithion i hinon ha
Afallon af i wella,
Ond i'm bro dof eto'n ôl,
Hi ddygaf yn fuddugol
Wedi dêl ei hoed, a dydd
Ei bri ym mysg y bröydd;