Fel hwrdd diatreg y gwyllt wanegau
Onid unont yn uncrug o donnau,
Yn untwr unwyd tariannau di-rif,
A mwy na'r llif rym anwar y llefau.
Ac am ennyd bu chwyrn y cymynu,
A'r waneg grain o filwyr yn crynu
Yn llawn aidd, nes llonyddu yn engur
Reng o ddolur a phoen rhwng y ddeulu.
Rhag y berw, fel mewn dychryn oherwydd
Y lladdfa flaenaf, lleddfai aflonydd
Rengau'r gad, fel brigau'r gwŷdd pan beidio
Ystorm â ffrystio ar rym fforestydd.
Ennyd yn unig fu nad enynnodd
Hynny nwydau y llu, oni neidiodd
Rhesi ar resi, ni rusodd undyn,
Rhag ei elyn, ni bu ŵr a giliodd.
A thrwy y dydd rhag aruthred oeddynt,
Oni hwyrhaodd hwy ni arhöynt,
A rholiai eu cri a'u helynt heb ballu
Nes ymdaenu o'r llwydnos amdanynt.
Na thwrf peleidr y gad a'i thanbeidrwydd,
Hyotlach obry'r tawelwch ebrwydd ;
Tros gyfle trais ag aflwydd, megis lli
O ryw dosturi yr âi'r distawrwydd.
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/47
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon