Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dydd a'i dywel melyn
Yn cyrraedd brig hardd y bryn
O'i lys uchel i sychu
Deigr nos oddi ar ddaear ddu,
O dan y swyn y dihunais innau
I geisio'r fyddin,-digysur feddau
Yno oedd dan garneddau yr oesoedd,
Hen a dwfn ydoedd hundai fy nhadau!

Hyd riw ag allt, dros dir gŵydd,
Gwisgai hydref gysgadrwydd
Niwl dieithr, yn ail dewin
A wyddai ryw ryfedd rin;
A deuthum innau o daith y mynydd
I le cayedig ynghanol coedydd,
Lle'r oedd heulwen ysblennydd yn cronni
Yn lli goleuni rhwng gwyll y glennydd.

Ger llwyn ar gwrr y llannerch,
Gwylio'n fud y gwelwn ferch,
Yn nhrwsiad glana'r oesoedd;
Ni ddywed iaith hardded oedd;
Sindal ei gwisg megis ewyn gwisgi
Trumau y don, oedd yn troi amdani,
A channaid don ei chnawd hi, pan wridai,
Ail gwin y rhuddai liw gwyn yr eddi.

Ei gwddf oedd gyfliw gwyddfid,
Yn dwyn rhyw iâs o'i don wrid,