Prawfddarllenwyd y dudalen hon
yn goch tan liw ymachlud haul yr bydref. Clywir sŵn cyrn yn canu yn y pellter, a bytheuaid yn cyfarth. Gwanha'r goleuni yn araf. Daw OSIAN a'r HELWYR i'r golwg o'r coed. Safant i wynebu'r môr.
OSIAN (yn edrych ar y môr ac yn torri i ganu):
Diwedd gwael i'n dydd a gaid,
A thawodd y bytheuaid;
Oferedd gennyf aros,
Hulio nef mae niwl y nos
Gan ryw wan gyniwair hyd
Wig Rathlin, fel gwe rithlyd;
Lliwiwyd y maith orllewin
I gyd ag aur, gwaed, a gwin;
Mor dyner yw'r môr danom,
A'i ddŵr hallt fel cleddau rhôm
Ag Erin draw, ag ariando'r ewyn
Am dro ei glan fel modrwyog linyn;
Awn yno, lle cawn ennyn
Pêr hiraeth,
A'i lethu'n hudoliaeth
Hen y delyn!
YR HELWYR:
Awn yno, lle cawn ennyn
Pêr hiraeth,
A'i lethu'n hudoliaeth
Hen y delyn!