Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NIA:
Heno, dyred! Nid yw Erin
Ond ail nos i'n dolau ni!

OSIAN:
Gwae dolurus gadael Erin,
Ildio byd anwyldeb oes;

NIA:
Di gei olud bodd dy galon,
Byw na ludd un boen na loes!

Dolau, glynnoedd, deiliog lwyni,
Heulwen haf i'th lawenhau;
Mawl y delyn mal y diliau,
Gleiniau fil, a'r galon fau.

Heno, dyred!

OSIAN:
Ennyd, aros!

NIA:
Heno, dyred!

OSIAN:
Onid af,
Gaeaf mwy a gâi fy mywyd,
Hebddi hi, ni byddai haf!

Nia dirion!

NIA
Heno, dyred!

OSIAN:
Nia! dos a'm enaid i,
Yn d'oleuni y dilynaf,
Bydd y dydd lle byddi di!