Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NIA:
Wele'r hwyl ar ael yr heli,—
Yn y bad, a'r sêr uwch ben,
Awn a'r don yn dyner danom,
Rhwyfwn ni i'r hafan wen.

Y DDAU:
Wele'r hwyl ar ael yr heli,—
Yn y bad, a'r sêr uwch ben,
Awn a'r don yn dyner danom,
Rhwyfwn ni i'r hafan wen.


Gwanha'r goleuni yn araf, oni bo'n llwyd wyll. Daw'r HELWYR i'r golwg eilwaith. Safant i edrych ar OSIAN a NIA. Safant hwythau gan edrych tua'r môr, a NIA уn estyn ei llaw tuag at wrid olaf yr haul yn y pellter.

MORYNION (o'r golwg):
Lle mae haul yn lliwio môr,
Fore neu hwyr, yn farwor,
Heb wae trist adnabod tranc,
Tragywydd y trig ieuanc!


Cerdda OSIAN a NIA i lawr tua'r traeth.

YR HELWYR:
Ochôn! Ochôn! Ochôn!


Cilia'r HELWYR o'r golwg. Clywir eu cwyn yn pellhau. Daw'r nos.

RHAN II

Llannerch yn ynys Tir na n—Og, yng nghanol coed a blodau. Daw NIA i'r golwg a gwrendy. Clywir megis sain tannau o bell. Cynydda a derfydd. Cilia NIA i'r cysgod.