Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

F'annwyl, agor d'addfwyn lygaid
Gloywaf fel y gwelwyf i
I oludoedd cêl waelodion
Glân a dwfn dy galon di.

Gwylia dithau, gwêl hyd eithaf
Eigion fy ngolygon i,
Yno gweli dân y galon
Lanwyd â'th oleuni di.

Dof yn ôl i dŷ f'anwylyd,
Heriwn wlad a nofiwn li,
Heb un ing wynebwn angau
Mal y down i'th ymyl di!


Cilia OSIAN ymaith yn wysg ei gefn. Ymgryma i NIA. Diflanna. Saif NIA gan edrych ar ei ôl.

MORYNION (o'r golwg):
Aros lle mae yr oriau
Lawn o hud i'th lawenhau,
Haul haf ag awel hefyd
Fel y mêl yn falm o hyd!


Gwanha'r canu o hyd, nes darfod yn y pellter. Fel y bo'r canu yn gwanhau, cryfha'r goleuni, oni ddengys NIA уn sefyll yn ei holl ysblander fel delw ar ganol y llannerch, a'i golwg o hyd tua'r môr.