Prawfddarllenwyd y dudalen hon
RHAN III
Yn Iwerddon. Safle ben gartref OSIAN. Meini ar chwâl yma ac acw. Seiri yn dwyn meini at adeiladu mur, a phennaeth yn edrych ar eu holau.
Y SEIRI (yn canu):
Dyma'r lle bu gartre'r gân
Felysaf eiliai Osian
Oesau'n ôl. Dyrysni yw
Neuaddau'r dewrion heddyw;
Ond yn awr, cyfodwn ni
Lys arall.
Y PENNAETH:
Wele, seiri,
Gwael fydd sail ein adail ni,
A maned yw ein meini!
I gaer ein tadau gwrol,
Mynnwn ni eu meini'n ôl.
Y SEIRI:
Mynnwn ni eu meini'n ôl
I gaer ein tadau gwrol,
Fel yn nydd y gelfydd gân
Felysaf eiliai Osian.
Ant ymaith. Daw OSIAN i'r golwg ar ei farch y tu draw i'r mur, ac edrych ar y gwaith. Clywir canu'r seiri yn darfod draw.