Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OSIAN
(megis rhyngddo ag ef ei hun):
Adferant henllwyd furiau
Ddoe fu wych-yr annedd fau,
Ond, adail, wanned ydynt
Wrth y rhai a'th godai gynt!
(Wrth y SEIRI):
I minnau, wŷr, pe mynnwn,
Diau hawdd oedd godi hwn,
A'i roi'n y mur yn y man
A fynnech chwi, fy hunan!

Y PENNAETH
(gan syllu ar OSIAN):
A! fwynwr, a ofynnit,
Rhwydd am hyn y rhoddem it;
Rhyfeddod hir a fyddai
Gael egni un glew a'i gwnâi!
Ba ryw bris a ddewisi?

OSIAN:
Hyn, un waith, a fynnwn i-
Profi'r gwin pêr a yfynt
O aur gawg yn Eire gynt!

Y PENNAETH:
Rhodder y gawg aur iddo,
A gwin hen frenin y fro,
Y rhuddwin pêr a roddynt
Er rhyw gamp yn Eire gynt!