Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dwg un o'r SEIRI gawg a gwin ynddi d'i rhoddi i OSIAN. Y SEIRI (ag OSIAN yn yfed):

Gwin i lew ag awen lân,
Gorau i gyd, medd gair y gân
Felysaf eiliai Osian.

Osian, ben tlysineb iaith,
Denai môr dros donnau maith
Na welwyd mono eilwaith!


Plyg OSIAN, cyfyd y maen a'i ddodi ar y mur. Wrth iddo wneuthur hynny, tyrr cengl y cyfrwy, a syrth yntau ar lawr. Rbed y SEIRI ato d'i gyfodi, yn hen ŵr llesg.

Y PENNAETH:
Och! alar, ba ddrychiolaeth
Welw o ddyn i'w le a ddaeth!

MORYNION (o'r golwg):
Os Erin werdd a gerddi,
Awr fydd d'awr a'th orfydd di!

OSIAN (a'i lais yn crynu):
O, fy nolur, clyw, f'anwylyd,
Deuliw iâ ar dyle wyd,
Hoen y galon hon a gilia,
Galw yn ôl, yn ôl, ei nwyd!

O, ail agor fy ngolygon,
Niwl a'u deil, ni wela'i di;