Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cau mae dunos tranc amdanaf,
Dial ddaeth, e'm daliodd i.
Nia f'annwyl, onni fynni
Alw yn ôl fy nghalon i,
Nia, wele f'olaf alaeth
Deled nos-deolwyd ni!
Syrth i lawr yn farw.
Y SEIRI
(gan dyrru o'i gylch):
Ochôn! Ochôn! Ochôn!
MORYNION (o'r golwg):
Os Erin werdd a gerddi,
Awr fydd d'awr a'th orfydd di!
A feddo gof a fydd gaeth,
Cyfaredd cof yw hiraeth;
Disgwyliad, ŷs y galon,
Trwy alar hir treulir hon;
Nyni yn hoywon ieuanc,
Yntau yn drist yn ei dranc;
Nyni heb wae a'n bywyd
Fel y mêl yn falm o hyd,
Yntau yn drist yn ei dranc,
A ni'n ddiddiwedd ieuanc.
A'r canu ymhellach, bellach, fel y bo'r goleuni'n lleihau, a derfydd pryd na bo ond llewych yn disgyn ar y SEIRI, yn sefyll yn hanner cylch o gwmpas corff OSIAN.