ANATIOMAROS
Seilir y caniad hwn ar bethau oedd yn ddefod ymhlith yr hen Geltiaid ar y Cyfandir. Enw Brythanig yev Anatiomaros. Ni ddaeth i'r Gymraeg fel en priod, ond daeth ei elfennau. Ei ystyr yw Eneidfawr. Y mae Gwernyfed yn enw lle yng Nghymru. Yr oedd hefyd yng ngwlad Gal.
I
Ym mro Wernyfed, daeth pryd aeddfedu,
Ar ddôl, ar ffrith y trodd liwiau'r ffrwythau;
Ei wineu rwysg oedd yng ngrawn yr ysgaw,
Aeddfed chwarddai ar wyddfid a cherddin;
Troes ei ruddfelyn tros wyrdd afalau
Ag aeron haf perllennydd Gwernyfed.
Ynghŷd y galwed holl Blant y Cedyrn,
A gwrid y wawr ar gymylgaer y dwyrain;
Y da a'r menni, o dir y mynydd,
Yn araf hwyliant i'r Hendref eilwaith,
A gado'r Hafod, gwedi hir ryfig
Aneirif roddion yr haf a'i ryddid;
Sŵn cŵn yn cyfarth a bref y gwartheg
Yn toddi eisoes i'r hyntoedd isod,
A thonnau hoywon o chwerthin ieuanc
Yn neidio i'r entyrch, o nwyd yr antur;