Onid a'i wallt megis manod elltydd;
Efô, a wyddiad a fu, a fyddai,
A dawn nid oedd na gwybod nad eiddo;
O dramwy eraill i Dir y Meirwon,
O Fro Wernyfed, dros ferw aur Neifion,—
Yng nghanol ei long, ni alwai Angau
Anatiomaros ar hynt y meirwon!
A dawnsiodd y meibion a'r glân rianedd
Yn llwyn y derw yn llawen dyrrau;
Eu cnawd cyn wynned a'r ôd cyn nodi
Ei wynder iraidd gan oed yr oriau;
Ceinaf o lun, a'u gwallt cyn felynned—
Dalm Mai liwdeg,—â'r banadl ym mlodau;
A glas liw eigion yn eu glwys lygaid,
Neu lesni nef, liw nos ym Mehefin,
A sêr y nef wedi ysu'r nifwl
Sy'n troi a gweu am lesni tragywydd
Maes dilafar y didymestl ofod.
Newydd a hen y gyfannedd honno,
Mwyn dychwelyd a myned i'w chwilio,
Dymuniad gŵr ydyw mynd ag aros,
A hynny, hoen yw, bydd hen yn newydd,
A newydd yn hen, ni ddihoena hynny;
Lle buwyd unwaith, gall bywyd yno
Ado rhin ei ysblander ei hunan.
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/83
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon