Glasfwg yr allor yn araf dyrchafai
Yn fain aerwyau i fyny i'r awyr
O'r tân a burai; tewyn o berwydd
A gariai dwylaw rhai gwyry, dihalog,
O annedd i annedd eto i ennyn
Yno eilwaith ar bob hen aelwyd
Anniflan dân y duwiau eu hunain;
A rhag ei loywed, a'i arogleuon,
Y gyrrai hwnt y drygau a'r heintiau.
Yntau am oriau, Anatiomaros,
A borthai dân yr aberth a dynnai
Lu ei dylwyth o afael dialedd.
Ag adain nos yn bargodi'n isel,
A darnau dydd ar y dŵr yn diweddu,
Efo'r hen Dderwydd ei hun yn unig
Gwyliai'r nefoedd am goel i Wernyfed,
Y goel a ddôi o'r gwagleoedd eang,
O wynfa'r haul a'r rhai anfarwolion.
Yno, naw dengwaith, noson y dynged,
Yn nhreigi ei oes yn hir y gwyliasai,
Ag eto unwaith, dros frig y tonnau,
Y gwyliai'r nef am goel i Wernyfed,
O awr i awr, a'i lygaid yn aros
Heb ŵyro un waith o wybren eithaf
Y maith orllewin, lle methai'r lliant;
Yno, tanodd i'r diflant hwnnw
Yr aethai yr haul dros wartha'r heli;
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/84
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon