Rhyw iâs o wyn a arhosai yno,
A'r nos yn awr yn ei ysu'n araf;
Gwingodd, ymdonnodd, fel llygad unig,
Gloywodd, ag yna, treiglodd o'i ganol
Ryw gwlwm gwyn, megis briglam gwaneg;
A thrwy y nos, gan ei llathr wyniasu,
Union drywanodd y gwynder hwnnw
Hyd onis gwelid, yn osgo alarch,
Fry ar ei nawf uwch gwenfro Wernyfed,
Yn gannaid alarch, y gennad olaf.
Ac wrth yr allor pan ddaeth y bore,
Hun oedd oer oedd hun yr hen Dderwydd.
II
Hwyr oedd a'r haul oedd yn rhuddo'r heli
With agor lliwiog byrth y gorllewin,
A dur nen dawel dwyrain yn duo,
Dwyshau y tir yr oedd y distawrwydd,
A pharai osteg ar su'r fforestydd;
A llif yr afon yn llwfrhau hefyd
O flaen y llanw, a ddôi fel yn llinyn
O wreichion gemog am grychni gwymon,
Neu asen grom ar ei thraws yn gwrymio;
A heidiau'r gwylain yn gweu drwy'i gilydd
Uwch ben yr afon, a'u chwiban rhyfedd
Megis rhyw alwad, galwad dirgelwch,
Galwad o'r môr am Gluder y Meirwon.
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/85
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon