A'r haul megis pelen rudd yn suddo,
Un dres oedd euraid drosodd a yrrodd,
Fel heol dân dros fil o welw donnau,
Onid ergydiodd ei blaen hyd i'r goedwig,
Fel rhaeadr ufel ar hyd yr afon;
A thraw i ganol ei lathr ogoniant,
O ddirgelwch y coedydd i'r golwg
Y daeth rhyw fad, a dieithraf ydoedd ;
Ei gafn oedd aruthr, o gyfan dderwen
Ar ddelw ederyn urddol a dorrwyd—
Y gannaid alarch, y gennad olaf;
A'i nawf yr un hoen â'r edn frenhinol,
Ymlaen yr âi ym melynaur ewyn
Y rhaeadr ufel ar hyd yr afon.
Hyd lan y môr o'r coed lwyni mawrion,
Daeth meibion cedyrn a glân rianedd;
Cerddent yno yn drist a distaw
Heb air dros wefus, heb rodres ofer;
Oni wybuant, ag ef mewn bywyd,
Na fynnai wylo rhag ofn neu alar?
Efô, rhag angen, fu orau'i gyngor,
Nad ofnai ingoedd na dyfyn Angau;
Y mawr ei enaid, y mwya'i rinwedd,
Draw y nofiai o dir ei hynafiaid,
A thân yn ei gylch a thonnau'n golchi,
I wynfa'r haul at yr anfarwolion.
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/86
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon