MADOG
I
Wylai cyfeiliorn awelig yn llesg yn yr hesg a'r llwyni,
Nos, dros y bryniau dynesai, dydd, ymbellhai dros y don;
Mwyn ydoedd glannau Menai, a'r aur ar Eryri yn pylu,
Su drwy goedydd Caer Seon, Môn yn freuddwydiol a mud.
Draw ar y traeth yr ymdroai Madog, a'r mudan dawelwch
Dwys ar ei enaid yn pwyso fel y myfyriai efô;
Madog fab Owain Gwynedd, arf ysol ar feysydd ei genedl,
Ef, fu arwr ar foroedd, dewr ben llyngesydd ei dad,
Owain (o rym a dyhewyd, aml oedd ei ymladdau llidiog
Hunai ym Mangor heno, mewn hedd wedi'r ymwan hir!)
Madog, a garai symudiad agwrdd wanegau diorffwys,
Eigion yn ysgyrnygu gwawd wrth ymryson â'r gwynt;
Heno, mor drist oedd ei enaid â'r môr ar y marian pan wylo
Ddagrau ei anniddigrwydd a'i wae, wedi'r dymesti wyllt;
Glas y môr yn ei lygaid, a'i deryll ddyfnderau'n eu canol,
Hiraeth yr eigion aflonydd fyth yn ei lais efô,-
Dyn nad oedd un a'i cadwynai, rhydd megis rhyddid yr awel,
Cymrawd y don bererin, mab anfeidroldeb y môr!
Meddai: "Cymwys im addef oferedd myfyrion ieuenctid,