RHAGAIR
CYHOEDDWYD y rhan fwyaf o'r cerddi sydd yma o dro i dro yn Y Beirniad a'r Welsh Outlook gynt, yn y Western Mail, Y Traethodydd a'r Llenor; gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a chan Wasg Gregynog hithau mewn argraffiad cyfyngedig (1926). Aethant bellach yn anodd neu amhosibl i'w cael yn y ffurfiau hynny. Dyna'r rheswm dros eu cynnwys yn y gyfres hon, a chydnabyddir yma gwrteisi pawb ynglŷn â hynny.
Nid oes onid un esgus dros fod erioed wedi eu llunio, sef yr anffawd, gyffredin yng Nghymru hyd faboed yr awdur, o leiaf, mai prydyddiaeth o ryw fath oedd yr unig gyfrwng ag iddo un siawns i gael gafael cynnar ar fryd rhai ag ynddynt ryw fesur o duedd naturiol at gelfyddyd.
Symlhawyd ymadrodd neu ffurf yn rhai ohonynt o dro i dro, am na thybiwyd fod eu printio gynt yn sancteiddio eu mynych wendidau. Gan nad ynt onid cais i fynegi profiadau, digon croes i'w gilydd yn aml, heb un cais i'w cysoni wrth ofynion un broffes, fe wêl y cyfarwydd mai ofer ceisio ynddynt na dysgeidiaeth nac athroniaeth.
- Chwefror 8, 1934.