"Heno," medd Madog, "dihunaist ynof yr enaid a fynnai
Ddelwi yn fy meddyliau ryw ddysg a waharddai ofn;
Dyred, fy athro, hyd oror mwyn Aber Menai ewynfrig,
Yngo'n rhwym wrth ei hangor ein gwawdd y mae Gwennan Gorn,
Gwennan a'i hwyliau gwynwawr, fronheini frenhines y tonnau,
Moddus forwyn y meddwl, merch ddigaethiwed y môr;
Crud fy nychmygion a'm credau, weinyddes anniddig hiraeth,
Annedd ddilestair yr enaid, dôr pob rhyddid yw hi!"
II
Bwriodd huan y bore ei leufer fel afon ysblennydd,
Chwyddodd ei lif dros lechweddau'r Eifl ag Eryri hir;
Treiddiodd ei liant rhuddaur i ddyfnaf ddu hafnau'r mynyddoedd,
Ton oedd yn gwrido tano, a chraig megis manlwch rhos;
Llef ni chynhyrfai dangnefedd yr awr, ond ar ael y weilgi,
Haul a ddangosai hwyliau fel yn anelu am Fôn.
"Arglwydd," eb gwyliwr, "erglyw"-a Madog ym myd ei feddyliau,-
"Llynges draw sy'n dynesu, i dir tua Llanddwyn daw."
"Coder," medd yntau, "'r angorau a hwylier i wylio'u dyfod,"
Yna, datseiniodd Menai gan dyrfau a gwaeddau gwyllt.
Rhwygai'r ffluregau yr eigion, a'r haul ar yr hwyliau'n chwerthin,