Llithrai â'i hwyliau llathraid yn gwatwar gwatwar y gwynt;
Gwrando peroriaeth gerwinder ei hynt yr oedd yntau, Fadog,
Angof fu ganddo'r llongau ar dro am y pentir draw;
Buan'r oedd Gwennan a'i bwa yn troi am y trwyn a'u cuddiai,
Mur fu'r graig rhag y morwynt, mwy nid terfysglyd y môr;
Chwyrn am y traeth yr ymsaethodd Gwennan i ganol y llongau,
Rhwygwyd yr awyr ogylch â gwawch a disabad gwŷr.
Hywel fab Owain oedd yno, a'i Wyddyl yn eiddig lanio,
Dinistr y gad yn eu denu, a llid yn eu cymell hwy,—
Canys, ag yntau'n cynnull ei hawl ei hun yn Iwerddon,
Dafydd ei frawd i'w afael a ddug ei diroedd a'i dda;
Hywel, pan glybu, cynheuwyd ei lid, a'i lu a gynullodd,
Rhwygodd ei longau'r eigion gan awch ei gynddeiriog nwyd,
Felly, Hywel, pan welodd ef Fadog, cyfododd a'i gyfarch;
"Madog! tydi a'm oedodd, a throi fy mordaith ar ŵyr?
Diau, tydi ni fordwyit eigion ar neges y bradwr,—
Na Chamlan mileiniach ymladd gŵr gan ei swyddog ei hun!"
"Hywel," medd yntau, "ni welais luman—gyflymed yr hwylit!―
Maddeu, gwyddost mai eiddig fyfi pan gynhyrfo fôr;
Tudalen:Caniadau (T. Gwynn Jones).djvu/96
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon