Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HELPU IESU GRIST

AR fore oer yn Ionawr
Pan oedd pob bro a bryn,
Yn orchuddiedig drosto
Gan do o eira gwyn,
Fe welais ryw enethig
A'i dwylaw bach yn llawn,
Yn gwasgar eu cynhwysiad
Ar lian cannaid iawn.

Pa beth a wnai? gofynnais,
Ble'r âi di, blentyn clau,
Nid yw yn bryd llafurio,
Na chwaith yn amser hau;
Gan hynny dwed, atolwg,
Beth yw dy neges ffel,
Ar fore mor aeafol,
Gad glywed, eneth ddel?

Y llances lwys atebodd
Yn llawn hoenusrwydd iach,—
" 'Rwyf heddyw'n helpu'r Iesu
I borthi'r adar bach!
Mae troion rhyfedd natur
Yn rhoi eu bwyd dan glo,
A rhaid i minnau gofio,
Am ran i'r adar to.

"Mae Iesu Grist a minnau,
Yn ffrindiau tyner iawn,
Cyflenwa'm holl anghenion,
A cheidw'm bwrdd yn llawn.
'Rwyf finnau'n casglu'r briwsion,
Mae'i deulu'n fawr eu rhi,
Fe enfyn rai bob bore
Am damaid ataf fi.