Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COLLI JOHN

Bachgen Mr. a Mrs. Evans, Church Terrace


DYMA destyn hawdd i ganu,
Teilwng iawn o sylw plant,
Un o ffrindiau anwyl Iesu,
Newydd ei berffeithio'n sant;
Brysiodd fry o ganol chwareu,
Braidd na wyliwn ef yn ol,
Beth a'i swynodd o'n gororau,
Ond atyniad Dwyfol gol?

Canwn drwy ein dagrau gloewon,
A ddylifant mor ddiddeddf;
Wylwn, canwn ein halawon,
Dagrau yw ein nodau lleddf.
Dyna'r pryd mae'r rhosyn decaf,
Pan y mân-wlith arno sydd,
Felly mae y gân bereiddiaf,
Pan fo dagrau ar y rudd.

Beth? A yw yn destyn canu
Rhoi anwyliaid yn y llwch,
Rhoi ein hawl o'i serch i fyny,
Wrth eu rhoi dan ddaear drwch?
Na, nid dyna ydyw rhoddi
Saint yr Iesu yn y bedd,
Dyna'r ffordd bu yntau hyd-ddi,
Dyna brif ffordd gwlad yr hedd.

Unwn yn y cydgan hyfryd,
"Haleliwia " âg un llef;
Canai John, fel am ei fywyd,
Beth, yn awr, ynghor y nef?