Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lle mae dim ond lleisiau persain
Engyl a seraffiaid glân,
Seintiau gyda'u nodau cywrain,
Yno mewn tragwyddol gân.

Deulu tyner, mae eich bachgen,
Wedi esgyn bythol fri,
Boed i chwithau fedru darllen
Iaith ei neges atoch chwi;
Daeth i'r ddaear fel ymwelydd,
Ni chadd brofi pwys na gwres,
Yna hedodd ar foreu ddydd
Wedi dwyn y nef yn nes.

I'M HOFF GYFEILLES

(Mewn Album)

'RWY'N hoffi gweld y dolydd teg
Yn dryfrith gan y meillion,
A gweld yr haul a'i wenau chweg
Yn gwrido'r blodau tlysion;
Ond mwy dymunol na'r rhai hyn,
Yw gweled menyw siriol,
Yn gwisgo addurniadau gwyn
o flodau byd ysbrydol.