Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y CYMRO MEWN GWLAD ESTRONOL

GADEWAIS fy nghartref yng Nghymru,
Ac aelwyd hoffusaf fy nhad;
Er hyn ni adewais fy nghariad,
Fy serch at fy ffrindiau a'm gwlad;
Er cryfed haul crasboeth yr India,
Sy'n gwneuthur fy nwyfiant yn wyw,
Tra dafn o waed Brython yn aros,
Fe garaf fy nghartref a'm Duw.

Meddyliais pe cawswn i groesi
Cyhydedd rhwng deuben y byd,
Fod yno ryw fan fel paradwys,
A llawnder a mwynder ynghyd;
Meddyliais fod hawddfyd a moethau,
Yn tyfu fel ffrwythau y coed;
A golud fel gemau symudliw,
Lle bynnag y rhoiswn fy nhroed.

Ond ha! er fy ngofid alaethus,
Rwy'n gweled mai breuddwyd oedd hyn,
A rhaid oedd i diroedd a moroedd
Fy ysgar o'm cartref bach gwyn;
Rwy'n gweld erbyn heddyw yn eglur
Mai llafur a blinder sydd ben,
A'm hunig uchelgais i bellach
Fydd dychwel i Gymru fach wen.