Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FFARWEL, AEAF BLIN.

FFARWEL, ffarwel aeaf blin,
Ffarwel ddu dymhestlog hin :
Hardd delynau hoew anian,
Ar yr helyg fu yn hongian,
Ond daw amser gwell yn fuan,
Yna ffarwel, aeaf blin.

Ffarwel, ffarwel aeaf blin,
Tyred hyfryd hafaidd hin,
Gwened haul i adgyfodi,
Ysbryd Duw i adnewyddu,
Gwyneb anian i adlonni,
Yna ffarwel, aeaf blin.

Ffarwel, ffarwel aeaf blin,
Tyn y gwanwyn teg dy fin;
Cân yr adar sy'n adgofio
Fod yn amser dy ffarwelio,
Paid yn wir a brysio eto,
Ffarwel, ffarwel aeaf blin.

Daw er hynny aeaf blin;
Ac ofnadwy arw hin;
Nad oes ond y nef awelon
All liniaru'r stormydd creulon,
A rhoi nerth i ddweyd yn eon,
Ffarwel, ffarwel aeaf blin.