Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae salm yr adgyfodiad
Ar fin pob gwan flaen-darddiad,
Ac yn eu gwaith 'rol gaeaf maith
Cyhoeddant iaith traddodiad.

NEGES Y BLODEUYN.

'Rwy'n anfon y blodeuyn
I siarad drosof fi;
I gario serch fy mynwes lawn,
Yn uniawn atat ti:
Gwrandawer ei ystori,
Mewn iaith berswynol glir,
Nis gall athrylith blodau'r ardd,
Ond hardd fynegi'r gwir.

Fel perarogledd hyfryd,
Yw serch o galon iach;
Anfonaf finnau ran ddiail,
Rhwng dail y blod'yn bach :
Bydd marw hwn yn ebrwydd,
Edwina'r coch a'r gwyn,
Ond bydd ei genadwri dlos
Yn aros wedi hyn.

Gobeithio byddwn ninnau,
Fel blodau teg eu gwrid,
Yn cwblhau ein gwaith mewn hedd,
A pherarogledd prid;
Bydd raid i minnau farw,
Ond marw i ddechreu byw,
O! am gael bod yn rhai a dardd
Yng ngardd paradwys Duw.