Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IONAWR ETO.

DYMA Ionawr newydd ini,
Gyda newydd len,
Beth a roddwn ninnau arni
Ddeil oleuni'r nen?
Mae'r llinellau oll yn union,
A'r dalennau'n lân,
Rhoddwn wiw ddymuniad calon,
Rhoddwn fawl a chân.

Ionawr ! Ti agori flwyddyn
Gyfan ger ein bron,
Agor ein calonnau cyndyn
I ddaioni hon;
Ionawr ieuanc, wyneb siriol,
Er dan eira gwyn,
Disgwyl 'rwyt y wen foreuol
Ddaw a haul ar fryn.

Ionawr! Dan dy gwrlid trwchus,
Y mae blodau fyrdd;
Arogl anian yn bersawrus,
Sy'n eu gwyn a'u gwyrdd:
Boed i ninnau ymdebygu,
Er bod weithiau 'nghudd;
Daw yn adeg ymddadblygu
Pan estynno'r dydd.