Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MEFUS A HUFEN.

A y mefus melus cochion,
Rwyf yn diolch o fy nghalon:
Buont i mi'n iachawdwriaeth,
Well nac unrhyw feddyginiaeth.

Hefyd am yr hufen melyn,
Rwyf yn diolch yn ddiderfyn,
Ond tu hwnt i'r moethau amheuthyn,
Am y cariad sy'n eu canlyn.

Melus fefus yn fy nghlefyd,
Peraidd hyfryd hufen hefyd,
Ond melusach cydymdeimlad,
A phereiddiach cywair cariad.

Darfod wnaeth yr aeddfed ffrwythau,
Darfod wna pob peth fel hwythau:
Ond yn aros mewn eneiniad
Mae diddarfod ffrwythau cariad.

YR "HEN" ANN GRIFFITHS.

ANN GRIFFITHS. Pam yn hen?
Nid oedd ond ieuanc oedran,
Rhyw chwech ar hugain oedd pan aeth
I'r bedd o Ddolwar Fechan!
Bydd rhyw ieuenctyd byth
Ar fynwent Llanfihangel,
Nes daw ei chysegredig lwch
I ateb yr archangel!