Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MIS TACHWEDD.

Mis Tachwedd oerllyd llaith,
Yn prysur wneyd ei waith,
Ar ddail a dyn:
Fe byla llawer gem,
O dan ei awel lem,
Marwolaeth ddwg ei drem,
I lawer un.

Gan adar nid oes gerdd,
Na'r goedwig ddeilen werdd,
O! mae hi'n nos:
Mae'r ceinder wedi ffoi,
Gerwinder yn ymdoi,
A'r gaeaf yn ymgloi,
Ar fill a rhos.

O brysia, heulwen chweg,
Tyrd eto, dywydd teg,
Gwyw yw pob gwedd;
Mae arnaf hiraeth trwm,
A’m calon fel y plwm,
O dan y dirfawr swm,
O fyd a bedd!

MEGIS DEILEN.

MEGIS deilen y gwywasom,
Megis deilen y syrthiasom,
Megis deilen yw ein hynt;
Fel y ddeilen, byw am ennyd,
Yna dygir ni mewn munud,
Megis deilen gyda'r gwynt.