Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwyntoedd croch ein llym anwiredd,
Arnom chwyth yn ddidrugaredd,
Pwy a'n cwyd o'r domen drwch?
Gwaeddwn arnat, Iesu hawddgar,
Gwisgaist ti bridd gwael y ddaear,
Cofia'r tlawd sydd yn y llwch.

Geidwad dyn, mae gobaith eto,
Er fel deilen i ni gwympo,
Planner ni ar lan y lli,
Afon cariad tragwyddoldeb,
Dyna wyrddlas anfarwoldeb,
Yno byth ni wywn ni.

GYDA'R TANNAU.

HOFF yw gennyf sain y delyn,
Ar hyd y nos:
Ymlid ymaith ofn y gelyn,
Ar hyd y nos:
Swynol ydyw ei pher seiniau,
Iaith (yr) enaid ar ei thannau,"
Dyna'n fwyaf garaf finnau,
Ar hyd y nos.

Mae fy nghariad ar y wen donn,
Ar hyd y nos:
Curo drosto mae fy nghalon,
Ar hyd y nos:
Boed i'r ser a'r lloer ei wylio,
Boed amddiffyn nefoedd drosto,
Nes y delo adref eto,
Ar hyd y nos.