Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond gallwn ninnau hwylio'n llestri bach,
Hyd foroedd cariad Joseph at ei deulu;
Pan holai am ei dad, ai byw ac iach?
Pan syrthiai ar eu gyddfau i'w cusanu;
Pan fethodd ag ymatal ddim yn hwy,
Gorch'mynodd allan bawb o'i bresenoldeb,
A'i galon fawr faddeuol bron yn ddwy,
Gan orlawenydd serch ac angerddoldeb.

Ond Och! Ofnadwy adgyfodiad ddaeth,
Heb ganiad udgorn, ac heb lef archangel;
Euogrwydd gwerthu'r gwirion oedd fel saeth,
Anelog i'w teimladau mwyaf dirgel:
Er y gorweddai ugain mlynedd maith
Fel maen seliedig ar eu herchyll gamwedd,
Cydwybod wedi deffro ar un waith,
A'i treiglodd ymaith megis peth disylwedd.

"Na chollwch amser," medd eu hanwyl frawd,
"I ddigio dim nac edliw i'w'ch eich hunain;
Nid damwain ydoedd hyn, na, na, nid ffawd,
Ond Duw drwy bopeth ydoedd yn fy arwain."
Ac nid yw hyn ond eiliw hynod wan,
O'r Sylwedd mawr ac Awdwr Iachawdwriaeth
I godi'r euog damniol tlawd i'r lan,
A chadw bywyd rhag yr ail farwolaeth.