Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfod dy olygon treiddgar
At dy haul i'r Hafod Lon;
Mae cysylltiad o'r fan honno
A rhyw haul sydd uwch pob ton.

****

Aeth rhai bach o'ch mangre iachus,
Ienctyd nwyfus ar bob grudd:
Cododd cwmwl dros yr Hafod,
Troes ar fyrr yn Hafod brudd !
Ond daw heulwen wedi hynny,
Pelydr o'r ardaloedd pell,
Cofiwch chwithau "gymryd hwnnw,
Haul o'r bur baradwys well.

FY NOSBARTH

CHWITHAU, bellach, ewch a dysgwch,
Enw Iesu Grist i'r plant;
Dyna'r addysg oreu feddwch,
Os am roi anfarwol dant;
Tant a chwery pan y syrthio,
Ser y nen yn chwilfriw mân,
Gwyn eich byd os gellwch daro,
Cydsain yn y ddwyfol gân.

Gallaf edrych yn eich wyneb,
Gwenu arnoch yn ddifraw;
Ysgwyd dwylaw mewn anwyldeb
Yn y tragwyddolfyd draw:
Cofiwch fy nghyfarfod yno,
Pan y del eich awr i ben,
Bydd yn bwysig fod yn gryno
Yn y cartref hwnt i'r llen.