Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYSUR I'R PARCH. THOMAS WILLIAMS, GWALCHMAI

PAM yr wyli am d'anwylyd?
Pam y mae dy fron yn drist?
Ai gwarafun ei gwmpeini
'Rwyt i'r anwyl Iesu Grist?
Pam y mae dy ddagrau'n heilltion,
Yntau wedi mynd i'r nef?
O! mae'n rhyfedd fel yr wylir
Am un duwiol fel oedd ef!

Wyt ti'n meddwl fod y nefoedd
Felly wedi mynd ymhell?
Tithau wedi gweld dy riant
Pan ar drothwy gwlad sydd well;
Pan ffarweliai ef a'i deulu,
Pan wynebai'r ddaear gudd,
Nid oedd galar yn ei galon,
Nid oedd deigryn ar ei rudd.

Fab tirionaf, cod dy feddwl,
Sycha ddagrau glân dy fam,
Dywed iddi fod y nefoedd,
Lawer nes yn awr, paham?
Bellach cartre'th dad yw Iesu,
Yn ei fynwes mae ei ran,
Edrych arno yn y Ceidwad,
Sydd bresennol ymhob man.

Paid a chofio iddo farw,
Cofia fod dy dad yn fyw;
Un farwolaeth sydd i'w chofio,
Marw Prynwr dynol ryw: