Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y WEDDW

Cydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1883

MAE Anian yn gwenu ymhurdeb ieuenctyd
A'r bywyd yn sisial trwy'r glaswellt a'r dail;
Yr adar ymddyrchant i uchder y goedwig,
Cyd—blethant ber seiniau o foliant di—ail:
Mae iechyd yn dawnsio rhwng blod—ddail y
meusydd,
Prydferthwch paradwys deyrnasa'n ddi—drai:
A'r haul wedi sychu y dagrau a lecha
Ar wyneb mawr natur à thywel mis Mai.

Yr wyn a ymbranciant hyd lethrau y bryniau,
Hoenusder a mwyniant hyd ddyffryn a dôl;
Mae cân y forwynig wrth odro'i diadell
Yn adsain ei thyner acenion yn ol:
Y môr ymlonydda mewn hyfryd dangnefedd
Heb unrhyw arwyddion o gilwg na dant;
Yr unig gynhyrfiant yw nofiad y badau,
A'r tonnau a greir gan gerrig y plant!

O! fyd gogoneddus, mor firain dy olwg,
Mor swynol dy ddoniau, mor bur yw dy wedd;
Wrth weld ardderchowgrwydd dy wyneb di
heddyw
Pwy byth a feddyliai fod ynnot ti fedd!
O! draethell d'wyllodrus! A weli y weddw,
Fel delw o farmor, yn sefyll yn syn,
Delfrydedd ei bywyd, ei gobaith a'i chalon,
I gyd yn gloedig dan briddell y glyn.