Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O fyd trychinebus! Pa le mae'th ogoniant?
Ddoe popeth yn dyner, a phopeth yn hardd;
Ond heddyw dan deimlad o siomiant aruthrol,
Dichlynder a balla ym mlodau yr ardd!
Doe popeth o'i deutu yn hoew a siriol,
A phriod ei mynwes yn frenin ei byd;
Ond heddyw yn unig ynghanol y dyrfa,
A'i holl ragolygon yn chwilfriw i gyd!

O fyd cyfnewidiol! Does heulwen a chysur,
A baentiai bob gwrthrych yn euraidd a mad;
A'r fam y ddedwyddaf ynghalon ei theulu,
A'i theulu y goreu o fewn yr holl wlad!
Ond heddyw cymylau marwolaeth ymdaenodd,
Ac angau ei liwiau ei hunan a ddyd,
Anobaith a ddryllia angorion ei henaid,
Uwchben ei hoff faban, heb dad, yn ei gryd!

Unigrwydd y weddw, pwy all ei ddarlunio
Unigrwydd ynghanol llond aelwyd o blant!
Unigrwydd aderyn diffaethwch, a hiraeth
Yn bwyta ei mynwes, i dorri ei chwant,
Mae bron fel unigrwydd marwolaeth ei hunan,
Cyfeillion hebryngant at donnau y dwr:
Ond yno gadewir y weddw yn druan,
I gladdu ei chalon ym meddrod ei gwr!

Gorffwylledd a leinw ei meddwl yn hollol,
Maddeued y nefoedd orffwylledd ei hing:
Ei henaid a suddodd yn nyfnder ei gofid,
Y tonnau cythryblus yn uchel a ddring;
Gwrandewch ar ei llefau mewn anymwybydd-
iaeth,
Yn erfyn ymwared rhag stormydd mor fawr,
Cyn rho'i y dywarchen i guddio ei wyneb,—
"O! rhowch fy amddifaid a minnau i lawr!