Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon


"Ffarwel, fy anwylyd, rhaid troi tua chartref,
Y cartref fu unwaith mor gyfan a mad;
Mae gennyf amddifaid yn galw am danaf,
Rhaid i mi fod bellach yn fam ac yn dad:
Pa beth a ddywedaf pan eilw fy Arthur
Ei Dada—ei Dada, tro cyntaf i gyd!
Pa fodd y dywedaf fod Dada yn ysbryd
Dihalog yn gwylio sigliadau ei gryd!"

Y weddw alaethus, ni fyn ei diddanu,
Ei dagrau wylofus gymysgent a'i llef;
Yn nwysder ei gofid, anghofia bob cysur;
Anghofia am foment fod Duw yn y nef!
Ond trannoeth a wawria ar natur ei chyni,
Tangnefedd byd arall ddisgleiria i'w bron;
Anfeidrol dosturi a ddaw i'w chyfarfod,
I ddangos yr Iesu yn marchog y donn.

Ie, weddw adfydus, os coron o berlau,
Sy'n pwyso dy emrynt urddasol i lawr:
Os ydyw teyrnwialen, a gorsedd, a theyrnas,
Yn llethu dy ysbryd â beichiau rhy fawr!
Neu ynte, os angeu hylldremia dy wyneb,
A dim ond tylot dy yn agor ei ddor,
Mae dagrau y weddw o unrhyw sefyllfa,
Yn cyffwrdd yn dyner yngorsedd yr Ior.

Mae ochain y weddw yn esgyn i fyny
Gan basio'r cymylau a phasio y ser,
A thynnu trugaredd o fynwes Jehofah,
A dwyn cydymdeimlad Tywysog ein Ner:
Mae'i lygad grasusol fel tanllyd amddiffyn,
Yn gwylio ei llwybrau rhag gormes na nam;
Os rhagfarn a feiddia orthrymu ei henaid
Caiff Frenin y nefoedd i arbed ei cham.