Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR FARWOLAETH JANE CATHERINE.

DAETH Haul Cyfiawnder yn ei rym,
Tywynnodd yn ei bron,
A gwnaeth ei hysbryd puraidd hi'n
Rhy dda i'r ddaear hon,
Ehedodd fry uwch llygredd byd
Mewn gwisg ddilychwin wen,
Ac engyl nef ar frys am roi
Y goron ar ei phen.

Blodeuyn prydferth ydoedd hi,
Yn cario lliwiau'r nef,
A pherarogledd rhwng ei ddail,
Pur sawr ei arogl Ef:
Nid rhyfedd i'w rhieni hoff
Ei charu ar y llawr,
Yr un mor fuan oedd i fod
Ym mhwysi'r Brenin Mawr.

MEWN ALBUM

WRTH droi dalennau'r gyfrol hon
Canfyddaf gamrau gwyn athrylith,
A theimlaf gryndod dan fy mron
Rhag ofn rhoi us ymysg y gwenith;
Gan hynny'm diogelaf ran
'Rol gweld y llyfr a'i ddarllen drwyddo
Fydd cael fy nghofio yn y man
Heb ddim ond rhoi fy enw ynddo.