Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gair oedd ganddi i'r oedranus,
Gwen i'r ieuanc, lawn o swyn,
Olew cysur i'r galarus
Ydoedd gwedd ei gwyneb mwyn.

'Roedd prydferthwch ei gweithredoedd
Yn ei gwneyd i bawb yn hardd,
Nid teleidion natur ydoedd
Yn ei gwneyd fel blodyn gardd;
Er ei bod yn dlws efelly,
Gydag aeliau duon main,
A dau lygad yn pelydru
Byd o degwch drwy y rhain.

Mae y fath wahaniaeth dirfawr,
Yn ein barn ar bwnc y tlws,
Un edmyga rosyn rhwysgfawr,
Llall y briall ger ei ddrws.
Un am lygad fel y saphir,
Arall am y duaf un,
Un am wallt fel aur i'w feinir,
Ail am wineu idd ei fun.

Pawb a gydolygai'n hapus,
Pawb a ddelai i'r un farn;
Ond eithriadau tra dirmygus,
Sydd ry wael i fod yn sarn;
Pawb ond hynny ganai'r cydgan,
Gan ymuno fach a mawr,
Yn y geiriau syml diddan,
Gwyn ei fyd a gaffo Gwawr.