Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AR YMADAWIAD CYFAILL I'R AMERIG

WRTH adael hen froydd a bryniau dy wlad,
Wrth adael dy liaws cyfeillion,
Wrth adael yr aelwyd dy fagodd mor fad,
A'r fron a'th anwylodd mor dirion,
Gadewi ar unwaith galonnau fel dur,
A gura mewn serch wrth dy gofio,
Gadewi weddiau esgynnant yn bur,
I ofyn am engyl i'th wylio.

Tra llwyddiant a ffynn dy waith dros y donn,
A'th wyneb at dir y Gorllewin,
Esgyned ochenaid o ddyfnder dy fron,
Wrth adael dy lenyrch cysefin.
Ar ol i'th fwriadau di ddyfod i ben,
O boed i dy fynwes gynhyrfu,
A bydded i'th hiraeth dan fendith y nen
Dy hwylio di eto i Gymru.

Y llwybrau a gerddaist ddiferant gan fyrr
Daioni, rhy ddrud i'w bwrcasu,
Arogledd dy enaint yn ddiau a dyrr
Ar ben dyrchafedig yr Iesu.
Wrth godi dy gyd—ddyn crwydredig o'r llaid,
Wrth wasgar dy fynych gymwynas,
Cei anfon i fyny dy weddi ddibaid,
A llefain, "deued dy deyrnas."

Tra pery y Gobaith, y Cariad, y Ffydd,
I ennyn fel tân yn dy fynwes;
Tra gelyn dynoliaeth yn rhodio yn rhydd,
Atalia di gamrau ei ormes: