Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NEGES JOHN

'DOEDD neb yn meddwl byth
Fod John yn ymyl marw;
'Roedd yma'n dawel a di-lyth
Ar dywydd teg a garw:
Eich plentyn bach oedd John,
Er iddo gyrraedd oedran,
Erioed ni roddwyd sugn bron
I ddiniweitiach baban.

Nis gallai ddarllen gair,
Nis gallai wneyd ei enw,
Er hyn 'roedd enw " Baban Mair,"
A swyn i John yn hwnnw.
Adwaenai lyfr y nef,
A throai ei ddalennau,
Dyrchafai aml ddyfal lef
O fawl i'r uchelderau.

Ni wyddai fawr am Dduw,
Na chwymp ofnadwy Eden,
Ond 'roedd ei galon fach yn fyw
I'r Hwn fu ar y croesbren;
Cyfodai olwg syn,
Sibrydai enw Iesu,
'Roedd Duw y nef yn deall hyn,
A ninnau oll yn methu.

Adnabu'r nefol dant
Pan yma ar y ddaear,
Ac nid oedd seraff gwiw na sant
Sydd heddyw'n uwch ei lafar.