Tudalen:Caniadau Buddug.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae wedi dysgu'r Gair
Yn berffaith yn y nefoedd,
Mae'n darllen heddyw ieithwedd lân,
A chân y goruwch leoedd.

Beth oedd ei neges brudd?
Sydd yn ddirgelwch dyrus,
Paham anfonwyd ef mor gudd
I fyd mor dra adfydus?
Rhyw angel fu i'w fam
Anfonwyd yma i weini,
Ac aeth a'i chalon yn ddinam
I ganol gwlad goleuni.

Mae yno heddyw'n son
Am danoch wrth angylion,
Dan ganu'n glir ei hoffus dôn.
"Oll yn eu gynau gwynion";
Mynd ato ef yw'r fraint
Sydd gennym i'w dymuno,
Ac uno gyda John a'r saint
Sy'n moli'r Iesu yno.

COFFA.

Bu farw ynghanol y rhyfel,
Cyrhaeddodd hyd derfyn ei daith;
Cyflawnodd er hynny yn dawel
Ei neges a'i ran yn y gwaith;
Gorffwysed ei lwch yn ddigyffro,
A nofied ei enaid mewn hedd,
Daw angel ryw foreu i'w ddeffro,
Mae baner y Groes ar ei fedd.